NEWYDDION 


Ffrind gorau dyn

15.09.2015

Mae pawb yn hoffi cŵn. Wel, falle dim pawb. Ond tybiaf ei fod yn deg i ddweud ein bod, ar y cyfan, yn amheus o bobl nad sy’n hoffi cŵn. 'Ti ddim yn hoffi cŵn?' yn cael ei ddilyn gan anallu i amgyffred a golwg ychydig yn ddryslyd ac mae'r sgwrs yn dod i ben, yn araf. Os ydych chi'n un o'r bobl hynny nad sy’n hoffi cŵn, peidiwch â dod i Nanteos ar 4 Hydref, efallai na fydd yr olygfa o gŵn yn cael amser da wrth eich dant

Sioe cŵn a gynnau
Felly beth yw amser da i gi? Maent yn hoff o nap bach slei, yn mwynhau driblo bobman, bwyd wrth gwrs ond yn bennaf oll maent yn hoffi rhedeg ar ôl a nôl pethau. A beth yw un o’n hoff bethau ni fel y ddynol ryw? ‘Da ni’n hoffi strwythuro pethau arferol dydd i dydd mewn i chwaraeon a gemau gan greu cystadleuaeth iach. Rhaid fod na rhyw foi un dydd wedi meddwl I’w hun: ma’ ‘nghi i yn well am nôl pethau na’r ci yna ond sut ydw am brofi hynny a dyna fo wir, camp newydd; y gamp o dyn yn saethu rhywbeth a ci yn mynd i'w gael. Nid gwyddbwyll mohono ond mae'n llawer o hwyl i wylio.
Cystadlu neu dewch i wylio


...mwy o wybodaeth

...mwy o newyddion

GWOBRAU

 
 

Nanteos, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 4LU   01970 600522